Mae dros wythnos wedi bod ers yr wyl erbyn hyn, ac mae’r tridiau cyffroes yn May You Live in Interesting Times wedi cael digon o amser i ymdoddi yn fy mhen.
Roedd yn brofiad gwych ac fe wnes i gyfarfod llawer o bobl diddorol tu hwnt. Roedd Alfred yn gymeriad difyr, ac wedi siarad gydag o, rwy’n sylweddoli fod beth mae o’n ei wneud yn Liberia mor bwysig oherwydd ei fod yn rhannu newyddion lleol a rhyngwladol gyda chymaint o bobl fyddai ddim yn derbyn y fath wybodaeth fel arall. Nid rhannu newyddion yn unig mae Alfred, ond mae o hefyd yn agor drysau gwybodaeth i gymaint o bobl eraill.
Mae prosiectau fel y Ghana Thintank hefyd wedi fy ysbrydoli gan ei fod yn newid ein dealltwriaeth ni o wledydd a chenhedlau eraill wrth iddyn nhw ddatrys ein problemau ni, ac roedd gwaith Eddo Stern yn dangos beth mewn celf gan ddefnyddio’r technoleg sydd ar gael i ni heddiw
Roedd y Maker Faire, oedd yn croesawu pobl sy’n creu pethau newydd gyda thechnoleg yn anhygoel. Roedd un dyn yno oedd yn arddangos yr allweddellau mae o wedi ei wneud drwy chwarae gyda’r ‘circut board’ a newid y sain yn gyfan gwbl. Roedd o hefyd yn dangos sut oedd gwneud hynny, a dyna beth sy’n bwysig oherwydd mai dyna ysbryd yr wyl. Rhannu syniadau ac ysbrydoliaeth gyda’n gilydd fel fod pawb yn mynd oddi yno gyda syniadau newydd a fyddai’n cyfoethogi ein bywydau ni, ac eraill hefyd.



