Fe es i ganol dinas Caerdydd bore ‘ma ar drywydd Alfred y blogiwr analog ond gresyn nad oeddwn yn gallu dod o hyd iddo a’i giosg newyddion yng nghanol y glaw. Ond fe fydd o’n gweithio drwy’r dydd am y tridiau nesa, felly dwi’n siwr y ca’ i gyfle i ymweld ag o eto cyn ddiwedd yr wyl.
Fy nigwyddiad cyntaf yn yr wyl felly oedd Gweithdy 4iD yng Nghanolfan Chapter bore ‘ma. Menter gymharol newydd gan Channel 4 yw 4iD sy’n gobeithio trawsnewid y ffordd mae cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio. Mae’n nhw’n gwneud hyn drwy gefnogi syniadau newydd am wefanau, gemau a rhaglenni ar gyfer ffonau symudol sydd o fudd i’r cyhoedd ac yn creu cymunedau newydd.
Digwyddiad hynod ddifyr, ac roedd hi hefyd yn dangos pa mor bwysig yw’r cyfryngau newydd yma i’r hen gyfryngau hefyd.
Cinio rwan, ac ychydig o bwdin gyda’ Bwyd Sonique prynhawn ‘ma.