Wedi i’r glaw glirio am sbel prynhawn ‘ma, fe gefais i gyfle i ymweld a chiosg newyddion Alfred Sirleaf yng nghanol y dre. Mae hi’n edrych yn dda, a does dim dwywaith fod y stondin yn tynnu sylw gyda phobl yn stopio i gael golwg ar y newydd diweddaraf. Mae modd i bawb gyfrannu at y newyddion mae Alfred yn ei roi ar ei giosg drwy neges destun. Os ydych chi eisiau cyfrannu, anfonwch neges gyda’r newyddion i 07504433163.
Dyma ychydig o luniau o’r ciosg ac o Alfred yn brysur wrth ei waith.

Ciosg NewyddionAlfred wrth ei waith
