Mewn ystafell fechan ym mhellafion Chapter cefais fy nghyflwyno i Bwyd Sonique. Prosiect dau artist, Simon Proffitt a Karine Décorne, yw Bwyd Sonique, ac mae’r teimlad agos (dim ond pedwar sy’n cael mynychu’r perfformiad ar y tro) yn gwneud i chi deimlo’n rhan o’r digwyddiad.
Wrth eistedd ar glustogau ar y llawr bu’r pedwar ohonom ni’n gwneud defnydd o’n holl synhwyrau wrth i Karine ddechrau coginio tra bod Simon yn recordio’r swn oedd yn cael ei newid mewn cyfrifiadur cyn ei chwarae i’r gynulleidfa. Roedd y sain oeddem ni’n ei glywed yn gwneud i ni ymlacio a myfyrio tra’n gwylio Karine yn coginio.
Roedd arogl hyfryd y bwyd hefyd yn ychwanegu at y profiad, a daeth pob dim i uchafbwynt wrth i ni dderbyn bowlen bychan o fwyd yr un fel oedd y gerddoriaeth yn distewi.
Dyma’r perfformiad aml-synhwyrol cyntaf i mi ei fod yn rhan ohono ac mi oedd o’n brofiad gwahanol iawn. Roedd agosatrwydd y peth yn gwneud i mi deimlo ychydig yn anghysurus i ddechrau ond buan iawn wnes i ymlacio yn swn y ffrio a’r arogl hyfryd. Difyr iawn.
October 22, 2009 at 22:33 |
Oedd y bwyd yn dda?
October 24, 2009 at 08:19 |
Oedd, da iawn. Fe ges i afalau wedi ei ddrio gyda’ zest oren a sbeisys gwahanol. Ond wedi i mi siarad a phobl eraill sydd wedi mynd i’r perfformiad, mae’n debyg fod bwyd gwahanol yn cael ei baratoi pob tro sy’n gwneud pob perfformiad yn unigryw sy’n golygu fod y gynulleidfa’n dod oddi yno wedi cael profiad gwahanol.