Newydd fod mewn trafodaeth fywiog iawn fel rhan o’r unConference. Y testun oedd sut all technoleg DIY helpu i gyllido creadigrwydd. Roedd yna gynrychiolaeth o fyd ffilm, celf, cynghorau lleol a mudiadau cyllido gwahanol.
Wrth i’r byd technolegol dyfu o’n cwmpas ni – yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol sydd ohonni gyda Cyngor y Celfyddydau yn mynd i dderbyn swm sylweddol yn llai o arian oherwydd y gemau Olympaidd – mae’r ffyrdd yr ydym ni’n ariannu prosiectau creadigol ar hyn o bryd yn llai perthnasol.
Doedd gan neb ateb i’r broblem, ond roedd pawb gyda’ barn a syniadau cryf am beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig dros y deg mlynedd nesa. Beth am ddefnyddio cwmniau arian cyhoeddus i bonito cwmniau preifat a mudiadau creadigol? Oes gwerth i hyn? Beth am geisio gofyn i gymunedau a’r cyhoedd am arian gan roi perchnogaeth iddyn nhw? Mae’r cwstiwn yr un mor agored nawr ag oedd o ar ddechrau’r sesiwn, ond mae’n gwestiwn pwysig i’r celfyddydau yng Nghymru heddiw.