Fe wnes i gyrraedd Chapter bore ‘ma heb syniad beth oedd o fy mlaen i, ond mae tua 30 ohonom ni wedi dod i’r unConference.
Y cwestiwn sydd wedi ei ysgrifennu yn fawr ar y wal yw: “Tincro Technolegol, y 10 mlynedd nesaf. Beth yw dyfodol technolegau hunan-fenter ar gyfer arfer a menter?”
Does dim agenda fel y cyfryw ond mae pawb yn ysgrifennu eu cwestiynnau nhw ar y pwnc ac yn amserlennu sesiynnau gwahanol. Ni sy’n penderfynu beth sy’n cael ei drafod a ni hefyd sy’n penderfynnu pa sesiynnau ry’n ni eisiau mynd iddyn nhw.
Mae ambell gwestiwn diddorol wedi cael ei godi, cawn weld sut fydd hi’n mynd yn ystod y dydd.
Fy nghwestiwn i? Beth fydd manteision ac anfanteision technoleg i ieithoedd lleiafrifol fel Cymraeg yn y dyfodol?

Y cwestiwn mawr!