Mae Eddo Stern yn artist ac yn ddylunydd gemau. Mae ei waith yn croesi realiti a ffantasi ac mae ganndo arddangosfa yma yn Chapter ar hyn o bryd.
Mae’r arddangosfa o’i waith celf yma yn drawiadol ac yn arbrofol iawn. Mae ei ddefnydd o’r we a gemau cyfrifadurol yn ei alluogi i edrych i mewn i ffyrdd newydd o gyfleu naratif a dogfen, technoleg a hanes.
Tydw i ddim eisau dweud gormod am yr arddangosfa, gan fy mod i eisiau annog pawb i fynd i’w weld. Mae’n bwerus iawn ac mae ei ddefnydd o ‘shadow puppets’ ac ysgrifen wedi ei gymryd o fforwm gemau ar y we yn gwneud i ni edrych ar y ddynol ryw mewn ffordd newydd gan ei bod hi mor hawdd i guddio tu ol i ffug enw’r dyddiau hyn.